Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
9 Tachwedd 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13044
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 4. 8 a 9 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd cwestiynau 1, 3-6 a 8 -11. Tynnwyd cwestiynau 2 a 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.11
Gofynnwyd bob cwestiwn.
4 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.27
Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am streic posib gan nyrsys?
5 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.46
Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad am - Tabernacl Treforys yn dathlu 150 o flynyddoedd.
Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - 40 mlynedd o S4C.
6 Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Codi’r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu
Dechreuodd yr eitem am 15.51
NDM8120 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Codi’r bar - Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Adroddiad Blynyddol 2021/22
Dechreuodd yr eitem am 16.48
NDM8119 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig bod yn Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer 2021/22, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl Plaid Cymru - Effaith fyd-eang defnydd domestig
Dechreuodd yr eitem am 17.31
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8121 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Gymru ymsefydlu fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang;
b) y gellir priodoli mwy na 50 y cant o goedwigoedd a gaiff eu colli yn fyd-eang a'r tir a gaiff ei drawsnewid i gynhyrchu nwyddau amaethyddol a chynhyrchion coedwigaeth y mae defnyddwyr yn galw amdanynt;
c) bod ardal sy'n cyfateb i 40 y cant o faint Cymru yn cael ei defnyddio dramor i dyfu llond llaw yn unig o nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru (palmwydd, soi, cig eidion, cacao, rwber naturiol, lledr, pren, papur a mwydion);
d) bod ardaloedd eang dramor yn cael eu dinistrio i greu nwyddau a anfonir i Gymru, gyda chanlyniadau trychinebus gan gynnwys cam-drin pobl frodorol, llafur plant, a cholli bioamrywiaeth.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i fod yn atebol am ac adrodd yr allyriadau sylweddol o nwyon tŷ gwydr a achosir gan Gymru dramor o ganlyniad i'r datgoedwigo a'r golled mewn cynefin sy'n gysylltiedig â mewnforio nwyddau i Gymru;
b) i gryfhau ei chontract economaidd – sy'n datblygu perthynas â busnes o amgylch twf ac arferion cyfrifol – i'w gwneud yn ofynnol i lofnodwyr ymrwymo i gadwyni cyflenwi nad ydynt yn cynnwys datgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol;
c) i ddatblygu system fwyd fwy hunangynhaliol i Gymru drwy ddatblygu llwybr tuag at system fwyd sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n rhoi ffynhonnell gynaliadwy o fwyd i gymunedau a fyddai'n cynnwys:
(i) gwrthdroi colli capasiti prosesu lleol;
(ii) gyrru cadwyni cyflenwi lleol;
(iii) blaenoriaethu mewnforio nwyddau cynaliadwy yn unig o dramor; a
(iv) helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd a diffyg maeth.
d) i ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu gofyniad i gadwyni cyflenwi fod yn rhydd o ddatgoedwigo, trosi ac ecsbloetio cymdeithasol, fel rhan o'r newid i ddefnyddio nwyddau cynaliadwy sydd wedi'u cynhyrchu'n lleol;
e) i gefnogi ffermwyr Cymru i roi'r gorau i ddefnyddio bwyd anifeiliaid da byw sy'n cael ei fewnforio sy'n gysylltiedig â datgoedwigo a thrawsnewid cynefinoedd dramor;
f) i gefnogi prosiectau a mentrau rhyngwladol gyda'r nod o gadw ac adfer coedwigoedd yn y prif wledydd sy'n cynhyrchu nwyddau; a
g) i sicrhau ei bod yn hyrwyddo cytundebau masnach newydd a fydd yn gwarantu safonau amgylcheddol a hawliau dynol uchel, yn enwedig o amgylch datgoedwigo, ynghyd â mesurau gorfodi llym.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
9 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.27
10 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.28
NDM8115 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynhyrchion mislif am ddim: yr angen i ddeddfu er mwyn sicrhau bod gan bawb sydd eu hangen fynediad atynt, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18.53
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2022